Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2021
Amser:
09.00 -
10.12
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid canlynol i agenda dydd Mawrth:
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd: Gwaith Ymchwil Manwl ar Ynni Adnewyddadwy (45
munud) –datganiad
ysgrifenedig i'w gyhoeddi yr wythnos hon gyda datganiad llafar o
bosibl i'w ddilyn yn y flwyddyn newydd unwaith y bydd yr Aelodau
wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad llawn
Hysbysodd y Llywydd Rheolwyr Busnes y bydd artist yn braslunio Cyfarfod Llawn o'r oriel gyhoeddus fel rhan o brosiect am 'sut mae democratiaeth i’w weld’. Nid yw hwn yn un o brosiectau’r Comisiwn.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021 –
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Llunio Dyfodol Cymru – Gosod cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol (45 munud)
·
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y
Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y cynnydd
yn dilyn cyhoeddi 'The Slave Trade and the British Empire: An
audit of commemoration in Wales' (45 munud)
– gohirio
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladu (45 munud)
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 (30 munud)
Nododd y Pwyllgor Busnes fod disgwyl i'r adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r Rheoliadau Coronafeirws gael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon, a bod posibilrwydd o newidiadau i’r Rheoliadau Coronafeirws o ganlyniad. Cododd Rheolwyr Busnes gyda'r Trefnydd y byddent yn dymuno cael pleidlais ddangosol yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad y Nadolig pe bai newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 19 Ionawr 2022 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 erbyn dydd Llun 13 Rhagfyr.
4.2 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws), y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir), y Bil Cymwysterau Proffesiynol, Bil Cenedligrwydd a Ffiniau’r DU a diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol presennol
At hynny, fe wnaeth y Pwyllgor Busnes gytuno i wneud y canlynol:
· cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd o 10 Chwefror 2022;
· cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gyda dyddiad cau diwygiedig ar fore 14 Rhagfyr 2021 ar gyfer cyflwyno adroddiad arno;
· cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 10 Chwefror 2022;
· cyfeirio'r Memorandwm ar y Fil Cenedligrwydd a Ffiniau’r DU at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 10 Chwefror 2022;
· nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.
5 Y Rheolau Sefydlog
5.1 Cynnig i ddiwygio Rheola Sefydlog 23.4 sy'n ymwneud â'r trothwy llofnodion ar gyfer deisebau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes ar y newid y gofynnwyd amdano gan y Pwyllgor Deisebau, ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog i'w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021.
5.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a chytunodd i wahodd y Pwyllgor hwnnw i ystyried y pwyntiau a godwyd mewn perthynas â Rheolau Sefydlog 2.6 a 2.7 (Datganiadau o Fuddiant y gellir eu Cofrestru) fel rhan o'i adolygiad arfaethedig o gofrestru buddiannau.
6 Busnes y Senedd
6.1 Y Cytundeb Cydweithio: Goblygiadau i Fusnes y Senedd?
Datganodd Sian Gwenllian fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod Dynodedig.
Nododd y Pwyllgor Busnes y farn gyfreithiol allanol a ddarparwyd gan yr Arglwydd Pannick CF ar y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac y byddai'r farn gyfreithiol yn cael ei rhannu gyda'r holl Aelodau. Roedd y cyngor yn cefnogi barn ragarweiniol y Llywydd nad oedd Plaid Cymru yn grŵp ag iddo rôl weithredol. Nododd y Pwyllgor Busnes fod barn y Llywydd ar y mater yn ddigyfnewid a'i bod yn derfynol.
Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth gychwynnol ar y goblygiadau posibl ar gyfer gweithredu Busnes y Senedd o ganlyniad i’r Cytundeb. Cytunodd Rheolwyr Busnes y byddent yn ceisio barn eu grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.